Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
Amser y
cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Agenda (134)v6 |
1 Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid (45 munud)
|
2 Cwestiynau i’r Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth (45 munud)
|
Cwestiwn Brys
Leanne Wood (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am raglen ad-drefnu ysbytai de Cymru? EAQ(4)0285(HSS)
|
3 Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad (15 munud)
|
4 Dadl ar Araith y Frenhines (120 mins)
NDM5245 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi cynnwys rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth y DU 2013/2014.
Rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth y DU (ar gael yn Saesneg yn unig):
https://www.gov.uk/government/topical-events/queens-speech-2013
Dogfennau ategol: Datganiad Ysgrifenedig yr Ysgrifennydd Gwladol Gwybodaeth am y Mesurau Seneddol yn Araith y Frenhines a ddarparwyd gan Swyddfa Cymru, Mai 2013 Llythyr gan y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu na chafodd Bil Llywodraeth Cymru, sy’n gweithredu argymhellion y Comisiwn Silk ar Ddatganoli yng Nghymru, ei gynnwys yn y rhaglen ddeddfwriaethol.
Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu'r Bil Cymru drafft, a fydd yn diwygio etholiadau'r Cynulliad Cenedlaethol ac a allai roi llwyfan i Lywodraeth y DU i roi unrhyw welliannau gan Gomisiwn Silk (Rhan I) ar waith.
Gwelliant 3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu'r Bil Cyfraniadau Yswiriant Gwladol, sy'n golygu y bydd hawl gan bob elusen a busnes o fis Ebrill 2014 hawl i Lwfans Cyflogaeth gwerth £2,000, a fydd yn help i dros 35,000 o fusnesau yng Nghymru gyflogi eu gweithiwr cyflogedig cyntaf neu ehangu ar eu gweithlu.
Gwelliant 4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu'r Bil Pensiynau, a fydd yn cyflwyno pensiwn y wladwriaeth un haen, a fydd yn golygu newid sylweddol ac angenrheidiol a fydd yn gymorth i bobl gynilo ar gyfer eu hymddeoliad.
Gwelliant 5 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu'r Bil Dadreoleiddio, a fydd yn help i leihau'r baich rheoleiddio diangen a gormodol ar fusnesau, sefydliadau ac unigolion, i helpu twf ac arbed arian ar gyfer y trethdalwr.
Gwelliant 6 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu'r Bil Hawliau Defnyddiwr drafft, a fydd yn symleiddio ac yn atgyfnerthu hawliau craidd y defnyddiwr, ac yn sicrhau bod gan ddefnyddwyr hawliau cliriach yn ôl y gyfraith a bod busnesau yn trin eu cwsmeriaid yn deg.
Gwelliant 7 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu'r Bil Gofal, a fydd yn diwygio cyllid gofal a chymorth yn Lloegr a fydd yn sicrhau bod pobl yn cael eu diogelu rhag costau uchel eu gofal cymdeithasol, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i amlinellu'r prif egwyddorion a fydd yn sail i system ariannu gofal newydd yng Nghymru.
Gwelliant 8 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu ymrwymiad parhaus Llywodraeth y DU, fel y'i hamlinellwyd yn ei rhaglen ddeddfwriaethol, i adeiladu economi lle y bydd pobl sy'n gweithio'n galed yn cael eu gwobrwyo'n briodol.
Gwelliant 9 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth y DU i'r Bil Cymru drafft.
Gwelliant 10 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod ymrwymiad Llywodraeth y DU i Fil Gofal ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno cynigion tebyg er mwyn mynd i'r afael â chostau gofal yng Nghymru. |
Yn unol â Rheol Sefydlog 11.15 (i), penderfynodd y Pwyllgor Busnes y byddai unrhyw bleidlais angenrheidiol yn digwydd ar ôl y ddadl. |
5 Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Cyllid Buddsoddi i Arbed (60 munud)
NDM5246 Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar Fuddsoddi i Arbed a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 26 Mawrth 2013.
Nodyn: Gosodwyd ymateb y Gweinidog Cyllid yn y Swyddfa Gyflwyno ar 15 Mai 2013.
Dogfennau ategol: Llythyr gan y Gweinidog Cyllid i Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid |
Cyfnod Pleidleisio |
6 Dadl Fer (30 munud)
NDM5244 Suzy Davies (Gorllewin De Cymru): Pa mor Ddiogel yw Diogel?: Goblygiadau i'r Mesur Teithio gan Ddysgwyr o ystyried y Bil Teithio Llesol
Dadl i drafod beth yw taith gerdded neu feicio ddiogel i'r ysgol. |
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13:30, Dydd Mawrth, 4 Mehefin 2013